Amdanaf

Dwi’n ddyn camera profiadol ac yn gweithio allan o Gymru ers bron i ugain mlynedd. Dwi wedi gweithio ar lawer o raglenni ffeithiol yng Nghymru ac yn rhyngwladol ac wedi ennill sawl gwobr, gan gynnwys tri enwebiad Bafta Cymru am ffotograffiaeth ffeithiol. Roedd yn beth naturiol iawn i mi droi at gynhyrchu a chyfarwyddo, ac ar ol cyd weithio â sawl cwmni annibynnol, mi wnes i ffurfio ‘Docshed’; sef cwmni newydd, annibynnol sy’n creu rhaglenni creadigol a gweledol. Mae gan Docshed yn barod, nifer o brosiectau cyffrous ar y gweill ar gyfer S4C a sianelau eraill y tu allan i Gymru.

image